Cymraeg

Croeso i'r Adran iaith Gymraeg ar safle gwe First Great Western.

Mae First Great Western yn falch i wasanaethu ein cwsmeriaid yng Nghymru ac wastad wedi ymroi i hybu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Felly, fel rhan o'n rhaglen barhaol i wella gwasanaethau, mae First Great Western wedi mabwysiadau cynllun clir o ddarpariaeth yn yr iaith Gymraeg ar gyfer ei wasanaethau a'i fusnesau yma, drwy gyhoeddi a rhoi ar waith bolisi ar yr iaith Gymraeg.

Un o'n prif amcanion yw atgyfnerthu gwasanaeth o ansawdd uchel i'n cwsmeriaid yn Ne Cymru, drwy i'n sdaff weithredu'r polisi yma - yn ogystal a chyd-weithwyr mewn ardaloedd eraill sydd mewn cyswllt cyson a Chymru a chwsmeriaid sy'n teithio i Gymru.

Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yng Nghymru, fel y Cynulliad Cenedlaethol, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, awdurdodau lleol ac atyniadadu Cymru. Byddwn hefyd yn gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth a rheilffordd eraill i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg lle mae'n bosib.

Cam cyntaf yn ein cynllun i ddatblygu gwybodaeth ddwyieithog ar-lein yw'r adran newydd hon o'n safle gwe, yn yr iaith Gymraeg. Fel rhan o'n polisi rydyn ni wedi cyhoeddi rhai cyhoeddiadau gwybodaeth a dogfennau polisi yn yr iaith Gymraeg. Mae'r cyhoeddiadau hyn i'w gweld neu'u lawrlwytho isod.

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd mwy o gyhoeddiadau yn cael eu hychwanegu wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi, a lle bo'n bosib bydd mwy o adrannau o'r safle gwe yn troi'n ddwyieithog. Rydyn ni wastad yn falch o dderbyn adborth gennych - ar ein Polisi ar yr Iaith Gymraeg a'r cyhoeddiadau dwyieithog. Os oes gennych sylwadau, defnyddiwch yr adnodd Contact Us (yn Saesneg y mae'r ffurflen hon ar hyn o bryd, ond rydyn ni'n croesawu unrhyw ymholiadau neu sylwadau yn yr iaith Gymraeg).

Llinell Ymholiadau Cymraeg
Ffoniwch 0845 604 0500 i gael gwybodaeth yn yr iaith Gymraeg

Polisi Iaith Gymraeg
Welsh Language Policy

Lawrlwythwch ein Polisi ar Ddelio gyda Chwynion

Lawrlwythwch ein Polisi ar Hawliau'r Anabl

Ein Polisi Di-fwg

Train times & tickets

Stations
Dates and times

Outward Journey

Return Journey

Add passengers and Railcards

Passengers
Railcards

Add another Railcard

Leave blank for open or single tickets Leave blank for single or open


Advanced search

Live Updates

Live Departure Boards

Uses latest train information provided by National Rail Enquiries.

Choose a station

Sign up now!

Be the first to hear about offers, events and competitions from First Great Western - register for our e-newsletters today.

Footer navigation

  1. Accessibility
  2. Privacy Statement
  3. Legal Notice
  4. Copyright
  5. Contact Us
  6. FAQs
  7. Careers
  8. Cymraeg
  9. Site Map
  10. RSS Feed